Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Mawrth 2024

Amser: 09.00 - 09.39
 


Preifat

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Lesley Griffiths AS

Darren Millar AS

Heledd Fychan AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

 

-     Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

-     Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.30pm

 

Dydd Mercher

 

-     Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

-     Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm

 

Gofynnodd Heledd Fychan am ddatganiad gan y Llywodraeth yr wythnos hon ar y sefyllfa yn Hirwaun lle mae nifer o drigolion wedi cael eu cynghori i adael eu heiddo oherwydd bod RAAC yn cael ei ddarganfod. Dywedodd y Trefnydd y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddarparu datganiad.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn cyhoeddi y bydd balot terfynol Bil Aelod y Senedd hon yn cael ei gynnal ar 24 Ebrill ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher.

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 19 Mawrth 2024

 

·         Dadl: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (60 munud)

·         Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad ymddiswyddo (30 munud) - tynnwyd yn ôl

 

Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024

 

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) (60 munud)

·         Cynnig i amrywio’r drefn o ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (5 munud)

·         Bil Seilwaith (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi (5 mun)

·         Dadl: Cyfnod 4 Bil Seilwaith (Cymru) (15 munud)

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer cydnabod ymddiswyddiad y Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Mawrth, a chytunwyd y byddai'r trefniadau'n cael eu cwblhau yn dilyn trafodaeth bellach rhwng y Llywodraeth a'r Llywydd.

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: 

 

Dydd Mercher 24 Ebrill 2024 –  

 

 

</AI6>

<AI7>

3.4   Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 20 Mawrth:

 

Heledd Fychan

NNDM8505 

 

Cynnig bod y Senedd: 

1. O’r farn: 

a) bod casgliadau cenedlaethol Cymru – sydd o dan ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru – yn perthyn i bawb yng Nghymru; 

b) bod angen gwarchod y casgliadau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, tra hefyd yn parhau i gael eu defnyddio i ysbrydoli ac ysgogi pobl o bob oed; a 

c) bod mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol wedi bod yn llwyddiant diamheuol ers cyflwyno’r polisi yn 2001, a bod y polisi hwn yn un y dylid ei warchod. 

2. Nodiadau: 

a) rhybuddion gan y sefydliadau bod toriadau cyllidol refeniw a chyfalaf yn peryglu’r casgliadau cenedlaethol, oherwydd llefydd a storfeydd anaddas, a hefyd gostyngiad yn nifer y staff arbenigol sydd bellach yn cael eu cyflogi i ofalu amdanynt; 

b) y pryderon y bydd toriadau pellach yn gwaethygu'r sefyllfa; a hefyd 

c) cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 am ein casgliadau cenedlaethol. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau a ganlyn:            

a) comisiynu panel o arbenigwyr i sefydlu beth yw’r perygl i’r casgliadau, a gweithio gyda’r sefydliadau a Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun i’w diogelu; 

b) gweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru – a’r undebau sy’n cynrychioli’r staff yn y sefydliadau hyn – i sicrhau eu hyfywedd i’r dyfodol; a 

c) gweithio gydag Amgueddfa Cymru i gadw’r polisi mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol. 

 

</AI7>

<AI8>

3.5   Gweithdrefnau ar gyfer Ymddiswyddiad ac Enwebu Prif Weinidog

Nododd y Pwyllgor Busnes y papur a chytunodd ar ganllawiau i’w rhoi i’r Aelodau ar y weithdrefn ar gyfer enwebu Prif Weinidog newydd.

 

</AI8>

<AI9>

4       Deddfwriaeth

</AI9>

<AI10>

4.1   Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd ynghylch amserlen ar gyfer Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Bu'r Pwyllgor Busnes yn ystyried gohebiaeth bellach a gafwyd oddi wrth y Trefnydd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am resymau'r Llywodraeth dros gynnig amserlen sy'n cynnwys cyfnod cyflym ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1, yn ogystal â'r farn ar yr amserlen a fynegwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor Biliau Diwygio.

Ar sail barn y mwyafrif, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen a gynigiwyd gan y Llywodraeth.

Mynegodd Darren Millar ei wrthwynebiad cryf i’r amserlen, ei farn na ddylid cwtogi ar waith craffu ar Fil o’r natur hon, ac y dylai’r Llywodraeth fod wedi cyflwyno’r Bil yn gynt pe bai ganddi bryderon ynghylch yr amser sydd ar gael i roi’r darpariaethau ar waith mewn pryd ar gyfer etholiad y Senedd 2026.

Nododd y Llywydd ei gwrthwynebiad i’r amserlen arfaethedig a dywedodd, lle mae yna gwestiwn – fel yn yr achos hwn – a yw Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gwaith craffu Cyfnod 1 yw’r man priodol i’r materion hynny gael eu codi. Nododd y byddai'n ysgrifennu at y pwyllgorau perthnasol er mwyn rhannu ei barn ar yr amserlen.

Cwestiynodd y Dirprwy Lywydd, fel Cadeirydd Pwyllgor y Bil Diwygio, agweddau ar gyfiawnhad y Llywodraeth dros fod angen amserlen gyflym a mynegodd hefyd y farn, lle mae yna gwestiwn o ran cymhwysedd, na ddylid cytuno ar amserlenni cyflym.

 

</AI10>

<AI11>

4.2   Amserlen ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Pwyllgor ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

</AI11>

<AI12>

4.3   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i gynnal gwaith craffu arnynt, a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau yw 17 Mai 2024 ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn, a rhai blaenorol eraill ar y Bil hwn.

 

</AI12>

<AI13>

5       Pwyllgorau

</AI13>

<AI14>

5.1   Llythyr oddi wrth Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau – cais am slot ar gyfer dadl

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar ddeiseb P-06-1392.

 

</AI14>

<AI15>

5.2   Llythyr oddi wrth Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gwneud cais am slot cyfarfod arall

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyfarfod fore Mawrth 7 Mai oherwydd ei bod yn Ŵyl y Banc ar 6 Mai.

 

</AI15>

<AI16>

6       Amserlen y Senedd

</AI16>

<AI17>

6.1   Dyddiadau Toriadau

Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau dros dro ar gyfer Hanner Tymor yr Hydref a Thoriad y Nadolig yn 2024.

Nododd Heledd Fychan y gallai amseriad Toriad y Nadolig effeithio ar waith craffu ar y Gyllideb pe bai Llywodraeth Cymru yn gosod ei chyllideb ddrafft yn hwyr eto, fel mewn blynyddoedd blaenorol. Nododd y Pwyllgor Busnes y potensial ar gyfer gwneud addasiadau yn ddiweddarach, pe bai angen, mewn ymateb i ddigwyddiadau yn ymwneud â’r amserlen ar gyfer y Gyllideb eleni.

At hynny, cytunodd y Pwyllgor ar ddyddiadau toriad dros dro ar gyfer Hanner Tymor y Gwanwyn a Thoriad y Pasg yn 2025.

 

</AI17>

<AI18>

7       Trefniadau Cyflwyno

</AI18>

<AI19>

7.1   Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Pasg

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn, cwestiynau ysgrifenedig a gwelliannau i Filiau yn ystod toriad y Pasg a gwyliau banc priodol. At hynny, nododd y Pwyllgor fod y Gweinidogion y cyfeiriwyd atynt fel rhai a oedd yn ateb Cwestiynau Llafar ar ôl toriad y Pasg yn destun newid yn sgil penodi Llywodraeth newydd.

 

</AI19>

<AI20>

8       Unrhyw fusnes arall

Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Hysbysodd y Trefnydd y Rheolwyr Busnes am fwriad y Llywodraeth i drefnu trafodion Cyfnod 4 ar y Bil ddydd Mercher 8 Mai.

 

</AI20>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>